Y Seintiadur


Mae seintiau yn poblogi tirwedd Cymru mewn enwau lleoedd, cysegriadau eglwysi a ffynhonnau sanctaidd. O Sain Ffagan i Landudno, o Dyddewi i Bennant Melangell, mae enwau seintiau yn rhan annatod o wead y wlad. Mae ambell un fel Dewi a Beuno yn enwau cyfarwydd, ond mae llawer wedi eu hanghofio.

Rhwng 1907 ac 1913, cyhoeddodd Sabine Baring-Gould a John Fisher The Lives of British Saints, pedair cyfrol yn casglu ynghyd y traddodiadau a gysylltir â phob un o seintiau cynnar Cymru (a rhannau eraill o Brydain). Mae’r llyfrau yn drysorfa o ffeithiau ac o storïau ac yn gloddfa werthfawr o wybodaeth hyd heddiw. Serch hynny, roedd yr awduron yn aml yn derbyn eu ffynonellau yn anfeirniadol, ac yn tueddu i gyfuno seintiau gwahanol â’i gilydd pan oedd yr enwau’n debyg, gan wau naratifau manwl wedi eu seilio ar gamdybiaethau a dyfalu. Mae nifer o’r testunau yr ydym ni bellach yn eu golygu ar goll yn gyfan gwbl o’r casgliad.

Bydd tudalennau ar bob sant yn ein Seintiadur newydd, yn cofnodi, e.e., cysegriadau, enwau lleoedd a dyddiau gŵyl. Rydym hefyd yn paratoi crynodebau o ffynonellau Lladin a rhestrau o ddelweddau perthnasol.