Llywelyn Fardd, Canu i Gadfan

Awdl chwe chaniad o fawl i Gadfan gan Lywelyn Fardd; fe'i canwyd c.1150, yn Nhywyn, Meirionnydd, yn ôl pob tebyg.


Eglwys Cadfan yn Nhywyn, Meirionnydd, yw canolbwynt diddordeb y gerdd, ac yn arbennig nawdd a braint yr eglwys a'i lleoliad yn nhirwedd hardd bro Dysynni. Ni chadwyd buchedd i Gadfan, felly mae'r gerdd yn ffynhonnell gwybodaeth bwysig i ni am Gadfan, am y traddodiadau amdano ac am ei greiriau, sef ei ffon fagl a'i lyfr o'r Efengylau a gedwid yn ei eglwys yn Nhywyn yn yr Oesoedd Canol.


Darllenwch y testun ar-lein

Seintiau y cyfeirir atynt yn y ffynhonnell hon.

Cadfan
Lleuddad

Safleoedd y cyfeirir atynt yn y ffynhonnell hon.